Welsh Football Academy

academy pel-droedChwaraewyr ifanc y tîm dan-12 yn taclo’r uchelfannau a’r dyfnderoedd o chwarae yn yr Uwch Gynghrair.  Cadwch ar y Bêl y tymor yma – peidiwch â methu dim o antur yr Academy!

“Yn dilyn llwyddiant anhygoel tîm Pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2016, dyma ddwy gyfrol berffaith i fechgyn a merched rhwng wyth ac unarddeg oed sy’n dwlu ar bêl-droed.”welsh books council

 

Addasiadau Mari George o ddau lyfr cyntaf cyfres boblogaidd Football Academy gan Tom Palmer yw Academi Pêl-droed: Gyda’n Gilydd ac Academi Pêl-droed: Taro ‘Nôl.

Llun a chynllun y clawr gan Brian Williamson
Llyfrau addas ar gyfer myfyrwyr lefel 4 a 5
Ein Pris : £5.99  

“Rwy wrth fy modd gweld fod Football Academy, fy nghyfres o lyfrau i blant, wedi cael ei haddasu i’r Gymraeg.
Gobeithio’n fawr y bydd darllenwyr ifanc ar hyd a lled Cymru’n mwynhau darllen straeon am chwarae i dîm ieuenctid yn yr Uwch Gynghrair.
Fel yn achos pob plentyn, mae heriau’n wynebu’r cymeriadau ar ac oddi ar y cae, yn yr ysgol ac yn y cartref.
Rwy’n gobeithio’n wir y bydd yr addasiadau newydd Cymraeg yma’n annog hyd yn oed mwy o blant Cymru sy’n caru pêl-droed i fwynhau darllen yn eu hamser hamdden.”

Cliciwch yma i gysylltu â mi

 

Gomer FA 1
ISBN 9781785621666

GYDA’N GILYDD 

Mae Gwilym yn caru pêl-droed ac yn
breuddwydio am gael bod yn chwaraewr proffesiynol ond mae’n
poeni am ei daldra – beth os yw’n rhy fyr i chwarae?
Ddiwrnod y treialon i dîm dan ddeuddeg Caerdydd mae Gwilym ar dân a hyd yn oed yn sgorio
gôl – ond a fydd hyn yn ddigon? Y cyfan sydd ar ei feddwl yw gwisgo crys Caerdydd ac ymuno â’r tîm…

Prynwch gwales.co.uk

AMAZON

 

gomer fa 2
ISBN 9781785621673

TARO ’NOL

Dydy Yunis ddim yn gallu credu mai fe yw prif sgoriwr Academi Caerdydd. Amser gorau ei fywyd? Na. Bob tro
mae’n sgorio ac yn edrych tuag at yr
ystlys mae rhywun ar goll. Ei dad.

Mae tad Yunis eisiau iddo roi’r gorau
i’r pêl-droed a gweithio’n galed yn yr ysgol. All Yunis ddarbwyllo ei dad y gall wneud y ddau beth neu a fydd rhaid iddo dynnu ei ’sgidie pêl-droed
am byth?

Prynwch gwales.co.uk

AMAZON

 

ISBN 9781785622144

DIM CHWARAE 

Addasiad Cymraeg Mari George o Football Academy: The Real Thing, sy’n rhan o gyfres newydd am bêl-droedwyr addawol sy’n ysu am wireddu eu breuddwydion.

Mae Tomas, y gôl-geidwad ifanc, wrth ei fodd yn dychwelyd i Wlad Pwyl, ei wlad enedigol, i chwarae mewn twrnameint rhyngwladol, ond gall gwrthdaro rhyngddo ef a’i gapten fygwth llwyddiant y tîm.

Prynwch gwales.co.uk

AMAZON

 

www.gomer.co.uk

Posteri am ddim :

gomer    welsh new

 

PRIVACY & COOKIES POLICY                            TERMS & CONDITIONS